Skip to main content

Strategaeth Ddiwylliannol 10 Mlynedd Wrecsam - Cyfle i Ddweud eich Dweud

Mae Ymddiriedolaeth Cymuned a Diwylliant Wrecsam yn arwain ar ddatblygu Strategaeth Ddiwylliannol feiddgar, gynhwysol a gweledigaethol 10 mlynedd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd y strategaeth yn chwarae rôl hanfodol yn nyfodol Wrecsam fel canolbwynt diwylliannol bywiog sy’n dathlu hunaniaeth ac uchelgais lleol, wedi’i oleuo gan y gwerthoedd annatod yng nghais Wrecsam2029 fel Dinas Ddiwylliant y DU.

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth ddiwylliant?

Nid siarad am theatrau, amgueddfeydd, orielau a chanolfannau gig yn unig ydyn ni (er eu bod yn bwysig)…ond am y ffyrdd rydyn ni’n cael hwyl, byw ein bywydau ac, yn y pen draw, yn dathlu ‘ysbryd Wrecsam’ gyda’n gilydd. Diwylliant yw lle’r ydyn ni’n hoffi bwyta, sut y treuliwn amser gyda ffrindiau a theulu, y chwaraeon rydyn ni’n eu chwarae a’u gwylio, y straeon rydyn ni’n eu hadrodd, y pethau a wnawn ac a ddychmygwn, ble’r ydyn ni’n troi am heddwch, cysylltiad neu ysbrydoliaeth, y bobl, ysbeidiau a’r llefydd rydyn ni’n eu dathlu. A llawer mwy.
Gwyddom yn barod bod gwaith gwych yn cael ei wneud yn Wrecsam i wella bywydau pobl drwy ddiwylliant. Drwy ddeall hyn yn well, gallwn adeiladu ar lwyddiant, dysgu o’n hymdrechion a dod o hyd i sut orau i goleddu beth sydd bwysicaf i ni.

CYMRYD YR AROLWG

Sut i gyfleu eich barn i ni

Rydyn ni’n gwahodd pawb sy’n byw neu’n gweithio yn sir Wrecsam i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn drwy rannu beth hoffech chi ei weld yn digwydd yn eich sir dros y 10 mlynedd nesaf.Helpwch ni i ddeall drwy gymryd 10 munud i gwblhau’r arolwg canlynol. Fel diolch, bydd pawb sydd wedi ymateb i’r arolwg yn cael y cyfle i rhoi eu enw mewn raffl i ennill Basged Wrecsam o Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam.

CYMRYD YR AROLWG

Ydych chi’n arweinydd cymunedol, yn rhedeg grŵp lleol neu gyda phersbectif y credwch fydd yn allweddol i’n gwaith?

Yn ogystal â’r arolwg, byddwn yn cynnal sesiynau ymgysylltu a chyfweliadau 1-2-1 gydag unigolion a grwpiau budd arbennig penodol (darparwyr diwylliannol, busnesau lleol, clybiau
chwaraeon ac ati) i’n helpu i ddeall yn well sut y gallai’r strategaeth hon fod o gymorth iddyn nhw.
Er gwaethaf ein bwriadau da, gwyddom y bydd cyrraedd pawb yn dipyn o her!

Os teimlwch fod eich persbectif chi’n hollbwysig, neu os oes gennych gwestiynau – cofiwch gysylltu. Anfonwch e-bost at: [email protected]

Ein Sgyrsiau Cymunedol

Rydyn ni eisiau gwybod: beth ydych chi ei eisiau gan Wrecsam2029?

Ochr yn ochr â’r Arolwg, rydym yn gweithio gyda Dirty Protest Theatre i gynnal cyfres o sgyrsiau cymunedol creadigol ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam tan ddiwedd mis Mawrth 2026. Trwy Grefftau, Adrodd Straeon, Bwyd, Cerddoriaeth a Pherfformiadau gallwch gyfrannu at Gais Dinas Diwylliant y DU Wrecsam, helpu i lunio rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer 2029 a dweud eich barn wrthym am ddyfodol diwylliant yn Wrecsam.
I gael gwybod am sgyrsiau sydd ar ddod, neu i gysylltu â thîm o artistiaid lleol, ewch i’r dudalen Sgyrsiau Cymunedol.

DIGWYDDIADAU SYDD I DDOD

Ein hamserlen

Byddwn yn casglu’r wybodaeth rhwng Ionawr a Mawrth 2026 gan ddefnyddio popeth i greu strategaeth yn Ebrill a Mai, i’w gweithredu o 2027 ymlaen. Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 5pm dydd Llun 16eg Chwefror.

Raffl wobrau

Diolch i chi am rannu eich meddyliau. Gallwch gefnogi ein gwaith drwy anfon yr arolwg ymlaen at ffrindiau, teulu a chydweithwyr fel y gallwn lunio barn eang am anghenion a dymuniadau ein preswylwyr.
Ar ôl cyflwyno’r arolwg, byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ffurflen i roi eich enw mewn raffl wobrau a dewis cael eich diweddaru ar ddatblygiadau yn y dyfodol neu beidio, drwy roi eich manylion cyswllt i ni. Bydd hyn yn sicrhau bod eich ymateb i’r arolwg ei hun yn aros yn ddienw. Bydd yn tynnu’r raffl a chysylltu â’r enillydd ym Mawrth 2026.

Telerau Ac Amodau

  • Wobr: Basged Wrecsam o Ganolfan Gwybodaeth Ymwelwyr Wrecsam werth £100. Ni fydd unrhyw arian yn cael ei talu i’r ennillydd.Dyddiad cau: 5yh, Dydd Llun, 16eg Chwefror
  • Pwy sydd yn rhedeg y cystadleuaeth: Ymddiriedolaeth Cymunedol a Diwyllianol Wrecsam.
  • Cymhwyster: Dim ond rheini sydd wedi cwblhau yr Arolwg Strategaeth 10mlynedd sydd a’r hawl i gael fynediad i’r wobr raffl.
  • Dim ond un mynediad i’r wobr raffl i bob person.

Polisi Preifatrwydd

Mi fydd eich manylion cyswllt yn cael eu storio yn diogel, a byddent ond yn cael eu defnyddio ar gyfer y pwrpas a nodir uchod. Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda unrhyw tryddydd barti oni bai am weinyddiaeth yr wobr raffl.

en_GBEnglish